Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 26 Medi 2017
Amser: 08.30 - 09.00
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Jane Hutt AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 4 Hydref 2017 -
·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau: Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a
ddysgwyd (60 munud) wedi'i ohirio tan 25 Hydref
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu 'Gwireddu'r Uchelgais - Ymchwiliad i Strategaeth Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru' (60 munud)
Dydd Mercher 11 Hydref 2017 -
· Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud) - symudwyd o 4 Hydref
Dydd Mercher 18 Hydref 2017 -
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dewisodd y Pwyllgor Busnes gynnig ar gyfer dadl ar 4 Hydref:
NND6509
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
David Melding (Canol De Cymru)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr angen i liniaru cynhesu byd eang a chefnogi cytundeb Paris o'r 21ain gynhadledd o'r partïon ('Cytundeb Paris') drwy dorri allyriadau carbon a nodi bod hyn yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
2. Yn nodi bod yr egwyddor datblygu cynaliadwy wedi'i hymgorffori yng ngwaith y Cynulliad gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwil pellach i ddichonoldeb cynllun peilot cyfrifon carbon personol yng Nghymru.
Paris Accord of the 21st Conference of the Parties ('Paris Agreement')' (Saesneg yn unig)
'Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015'
'Deddf Llywodraeth Cymru 1998’ (Saesneg yn unig)
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnal y Ddadl Aelod Unigol nesaf ar 18 Hydref.
· Cytunodd Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar gyfer ei ystyried yng Nghyfnod 1.
· Cytunodd Rheolwyr Busnes i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i ymgynghori ar amserlen ar gyfer Cyfnod 1 a Chyfnod 2.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y papur yng nghyfarfod yr wythnos nesaf.
Cytunodd Rheolwyr Busnes ar gais gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i ganiatáu cyfarfod ychwanegol bob yn ail ddydd Mawrth pe bai angen.
Nododd y Rheolwyr Busnes y papur.
Trafododd Rheolwyr Busnes y papur ac a allai'r Pwyllgor Busnes gefnogi barn a fynegwyd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol mai'r Cynulliad Cenedlaethol a ddylai fod yn gyfrifol am benderfynu ar y weithdrefn i'w chymhwyso ar gyfer is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru. Cytunodd Rheolwyr Busnes i gadarnhau eu hymateb yn dilyn y cyfarfod.